• Skip to main content
  • Skip to header right navigation
  • Skip to site footer

Camau Bach Dyfodol Disglair

Cefnogi pobl sy'n gadael gofal yng Nghonwy

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English

Ymgysylltu â Phobl sy’n Gadael Gofal – Cais ymchwil

24/10/2021 gan Debbie Doig

Mae’r tîm Ymgynghori Personol yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Ceryl Davies, Ymchwilydd o Brifysgol Bangor, ar brosiect dwy flynedd i edrych ar y ffyrdd gorau i ymgysylltu a gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fyw mewn gofal. Rydym ar hyn o bryd yn gwneud cais am gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae dwy ran i’r broses ymgeisio ac mae llawer iawn ohonoch eisoes wedi cymryd rhan yn y rhan gychwynnol hon ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser a mynegi cymaint o safbwyntiau meddylgar yn ystod ein sgyrsiau. Bydd hyn yn help garw i gefnogi’r cais, er hyn, ni fyddwn yn gwybod os byddwn wedi bod yn llwyddiannus neu beidio tan y flwyddyn nesaf ond, os byddwn ni wedi llwyddo, bydd y prosiect llawn yn dechrau ym mis Hydref 2022.

Dyma ein cam bach cyntaf i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil hanfodol a fydd yn newid y ffordd mae gweithwyr proffesiynol yn ymgysylltu a gweithio gyda phobl sy’n gadael gofal yn y dyfodol.

Byddwn yn diweddaru’r blog wrth i ni fynd drwy’r broses ymgeisio ac os hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith, cysylltwch â’ch Ymgynghorydd Personol neu anfonwch e-bost at personaladvisors@conwy.gov.uk

Categori: Blog

Peidiwch â cholli…

Cymorth a chyngor a’r cynnydd mewn costau byw.

National Care Leavers Week

WYTHNOS GENEDLAETHOL Y RHAI SY’N GADAEL GOFAL! 24-28 HYDREF 2022

Wythnos Genedlaethol y Rhai Sy’n Gadael Gofal 2022

Dewch i ddarganfod WeDiscover!

group of women standing on green grass field during daytime

Haf Llawn Hwyl!

selective focus photography of woman wearing black cold-shoulder shirt using megaphone during daytime

Mae’n iawn i gwyno!

Reader Interactions

Gadael Sylw Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cysylltu

Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi. Os hoffech rannu adborth neu syniadau am y safle hwn, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Gwe-lywio

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English

Chwilio’r safle hwn


Hawlfraint © 2023 · Camau Bach Dyfodol Disglair · Cedwir Pob Hawl ·

Dychwelyd i ben y dudalen