• Skip to main content
  • Skip to header right navigation
  • Skip to site footer

Camau Bach Dyfodol Disglair

Cefnogi pobl sy'n gadael gofal yng Nghonwy

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Ar y gweill
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English

Rhaglen WeDiscover Gogledd Cymru

25/07/2023 gan Debbie Doig

Mae 8fed Rhaglen WeDiscover nawr yn agored ar gyfer recriwtiaid newydd!

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Unrhyw berson ifanc 16 – 25 oed yng Ngogledd Cymru fyddai’n cael budd o sesiynau grŵp rhyngweithio yn ogystal â chefnogaeth mentora 1 i 1.

Mae WeDiscover yn rhaglen rhithiol sy’n cefnogi pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru i ddarganfod mwy am eu hunain a’r byd y tu hwnt i’w drws ffrynt.

“Pe bai’n rhaid i mi ddewis tri gair i ddisgrifio WeDiscover, byddwn i’n dewis ‘defnyddiol’, ‘ysbrydoledig’, a ‘llawn hwyl’. Mae’r cyfle i gael patrwm arferol a chwrdd gyda fy mentor wirioneddol wedi helpu fy ngorbryder.’ Tom

Mae’r rhaglen hon yn cael eu darparu dros Microsoft Teams, gyda chyfleoedd ar gyfer dyddiau wyneb yn wyneb yn yr wythnosau olaf, gan gynnwys:

  • Sesiynau grŵp rhyngweithiol – Yn cynnwys themâu perthnasol o sgiliau cyflogadwyedd, twf personol, creadigrwydd, diwylliant byd-eang a digon o hwyl.

  • Blychau darganfod – Bydd pob person ifanc sy’n ymuno â’r rhaglen yn derbyn Blwch Darganfod, mae hwn yn cael ei lenwi gydag adnoddau cyffrous i’w defnyddio drwy gydol y rhaglen, gan gynnwys amlenni dirgel i’w hagor mewn sesiynau syrpreis.

  • Siaradwyr gwadd – Bydd siaradwyr gwadd anhygoel yn ymuno â ni, gan ddysgu sgiliau newydd i ni a rhannu eu straeon.

  • Pentref Darganfod – Bydd holl bobl ifanc yn cael mynediad i’r Pentref Darganfod, ein cymuned ar-lein gyda’r cyfle i ganfod pob parth a chadw llygad allan am berlau cudd.

  • Gwobrwyon!– Mae pob person ifanc yn cael mynediad i wobrwyon drwy fynychu 8 sesiwn mewn 1 wythnos.
     

Gwyliwch ein Fideo WeDiscover i glywed beth mae bobl yn ei ddweud am y rhaglen.

Categori: Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, Ar y gweill

Peidiwch â cholli…

Llefydd gwych i ddod o hyd i gyngor ariannol ar-lein!

Tea and Toast

Symud Ymlaen

FFAIR SWYDDI GOFAL CYMDEITHASOL

SIOP UN ALWAD!!

Gwella eich Dyfodol!

Reader Interactions

Gadael Sylw Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *