Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg, sydd wedi dod i ben yn awr. Byddwn yn defnyddio’r adborth i wella’r wefan. Dewiswyd enillydd y Wobr ar hap ar 1 Medi 2022.
Os hoffech roi adborth ar unrhyw agwedd o’r wefan gofynnir i chi ddefnyddio’r blwch sylwadau ar waelod pob tudalen neu gysylltu â’ch CP yn uniongyrchol.
Mae angen eich adborth arnom ni!
Eich cyfle i gael eich cynnwys mewn raffl fawr!
Arolwg yw hwn i gael eich barn ar wefan Camau Bach Dyfodol Disglair a’r tîm Cynghorwyr Personol, ynghyd â’ch syniadau ar gyfer wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal eleni. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i wella’r wefan fel ei bod yn cael ei theilwra ar eich cyfer chi, a bod yn rhywle y gallwch chi fynd iddo pan fydd angen gwybodaeth arnoch chi.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu cynnwys yn y RAFFL FAWR, lle bydd cyfle i ennill £100 tuag at weithgaredd o’ch dewis! Gadewch eich manylion cyswllt ar ddiwedd yr holiadur er mwyn i ni allu rhoi gwybod i’r enillydd lwcus.
Mae’r holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn gyfrinachol.
Os hoffech gyfrannu at y wefan neu gael eich cynnwys yn y raffl fawr, nodwch eich manylion cyswllt yn y blychau a ddarperir ar ddiwedd yr arolwg hwn a byddwn yn cysylltu â chi.
Bydd yr arolwg hwn yn cau ar 31 Awst. Bydd enillydd y Raffl yn cael ei ddewis ar hap – byddwn yn cysylltu â nhw ar 1 Medi.
Lleisiwch eich barn!