Cyngor Arian Cymunedol
Peidiwch â phoeni ar eich pen eich hun; gallwn weithio drwyddo gyda chi
Mae Canolfan Cyngor Ariannol Antioch yn rhan o rwydwaith o dros 150 o ganolfannau cynghori sy’n rhan o Gyngor Ariannol Cymunedol. Bob blwyddyn mae’r canolfannau hyn yn helpu miloedd o bobl i ddelio â’u dyled. Mae nhw’n rhoi cyngor a chymorth ymarferol, diamod, cwbl gyfrinachol am ddim i bobl o bob cefndir.
Mae’r cynghorwyr yn Antioch wedi’u hyfforddi’n llawn ac yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb hollol gyfrinachol am ddim. Gallwn siarad â’ch credydwyr ar eich rhan fel nad oes yn rhaid i chi ysgwyddo’r baich ar eich pen eich hun a byddwn yn asesu eich sefyllfa ac yn awgrymu’r camau gorau i chi. Mae’r Ganolfan wedi’i hawdurdodi a’i rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol felly gallwch fod yn hyderus o ansawdd y cyngor y byddwch yn ei dderbyn.
Mae’r sesiynau trwy apwyntiad, neu gallwch alw heibio @20 Ffordd yr Orsaf i gael gwybod mwy.
Cyfeiriad: Rhif 20 Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn LL298BU
E-bost: moneyadvicecb@gmail.com neu ffoniwch 01492 485107
“Diolch am fod yn barod i wrando a pheidio â barnu fi. Dych chi wedi cynnig atebion ymarferol a syml ac mae cael rhywun i gyfeirio fy nghredydwyr ato fel nad oes rhaid i mi ddelio â nhw yn gymaint o ryddhad. Rwy’n teimlo fel pe bai pwysau enfawr wedi’i godi. Diolch” (Ms F.)
Gadael Sylw