• Skip to main content
  • Skip to header right navigation
  • Skip to site footer

Camau Bach Dyfodol Disglair

Cefnogi pobl sy'n gadael gofal yng Nghonwy

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Ar y gweill
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English

Rhaglan ‘We Discover’

02/03/2022 gan Debbie Doig

Mae’r gwasanaeth Ymgynghori Personol yn gweithio gydag elusen arbennig o’r enw ‘We Mind the Gap’ i gynnal rhaglen dros y we sy’n cynorthwyo pobl ifanc yng Nghonwy i ganfod ac i adeiladu dyfodol cadarnhaol iddynt eu hunain.

Cenhadaeth ‘We Mind the Gap’ yw rhoi cyfleoedd newydd mewn bywyd a gwaith i bobl ifanc sy’n haeddu gwell. Caiff y bylchau yn eu bywydau eu llenwi â chefnogaeth, cariad a gofal heb gywilydd. Mae 70% o’r bobl ifanc yn mynd ymlaen o’r rhaglenni i gyflogaeth am dâl, i wirfoddoli neu i addysg, sy’n golygu nad ydynt bellach yn ‘gaeth i’w hamgylchiadau’, ond yn ‘llywio’u bywydau eu hunain’.  

Os ydych rhwng 16 a 25 mlwydd oed, yn byw yn Sir Conwy, heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant ar hyn o bryd, a’ch bod yn chwilio am gymorth i gynllunio’r camau nesaf yn eich bywyd… dyma’r rhaglen i chi!

Os byddwch yn ymuno â’r rhaglen, byddwch yn:

Cymryd rhan mewn gweithdai hwyliog a rhyngweithiol dros y we

Cael eich cefnogi gan fentor personol i chi, a fydd yn gwrando arnoch ac yn rhoi cymorth i chi ddatblygu sgiliau a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Cael y cyfle i gyfarfod siaradwyr gwadd ysbrydoledig yn siarad ar amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys crefft ymladd cymysg a seryddiaeth!

Cael mynediad at ‘Discovery Village’ – porthol rhyngweithiol ar-lein

Ac, yn bwysicach fyth, mae’n lle hwyliog a diogel i gyfarfod pobl newydd ac i fwynhau eich hun.

Mae eraill sydd wedi cymryd rhan yn y cwrs wedi cael budd o fagu hyder a hunan-barch, cyfeillgarwch, hwyl ac ennill sgiliau newydd. Maent hefyd wedi ehangu eu gorwelion wrth gyfarfod pobl ysbrydoledig a modelau rôl. Cymerwch y cyfle hwn, a gellwch chithau hefyd fod yn fodel rôl ac ysbrydoli eraill!

Peidiwch â chymryd fy ngair i; gwyliwch y fideo byr hwn i glywed gan eraill sydd eisoes wedi cael profiad o raglen ‘We Discover’. Ac os hoffwch gymryd rhan, cysylltwch â’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu eich Ymgynghorydd Personol HEDDIW!

Categori: Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, Blog

Peidiwch â cholli…

Rhaglen WeDiscover Gogledd Cymru

Llefydd gwych i ddod o hyd i gyngor ariannol ar-lein!

Tea and Toast

Symud Ymlaen

FFAIR SWYDDI GOFAL CYMDEITHASOL

SIOP UN ALWAD!!

Reader Interactions

Gadael Sylw Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *