
Yn ddiweddar, bu i seicolegydd fforensig o’r enw Shannon Curry dystio yn achos difenwi Johnny Depp-Amber Heard. Nododd ei bod yn credu, yn ei barn broffesiynol, bod Amber Heard yn dioddef o anhwylder personoliaeth ffiniol.
Roedd yn anodd osgoi’r achos difenwi, gan ei fod yn llenwi ein ffrwd newyddion ar y cyfyngau cymdeithasol yn ogystal â’r newyddion ei hun.
I lawer, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw glywed am y term anhwylder personoliaeth ffiniol.
I eraill, bydd yn ddiagnosis y maen nhw’n ymwybodol ohono, ond heb fod yn rhy gyfarwydd â natur y cyflwr.
Bydd rhai, fodd bynnag, yn gyfarwydd â’r cyflwr fel dioddefwyr.
Felly rŵan ei fod wedi cael ei grybwyll mewn achos llys proffil uchel, bydd gan y cyhoedd well dealltwriaeth o APFf, siŵr o fod?
… ddim yn union.
Yn anffodus, mae APFf wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar mewn cyd-destun lle mae’n cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth i bardduo a thaflu amheuaeth ar rywun.
Yn y bôn, mae’r cyfreithwyr ar ochr yr achwynydd (Depp) wedi dewis agweddau ar y cyflwr a fyddai, yn eu barn nhw, yn eu helpu i fychanu Heard, er mwyn ei darlunio fel unigolyn annibynadwy, moesol amheus na ellir ymddiried ynddi.
Mae nifer o bobl wedi tynnu sylw at hyn ac wedi beirniadu’r ffordd y mae’r cyflwr hwn, y dywedir bod tua 1 ym mhob 100 o bobl wedi cael diagnosis ohono, wedi cael ei ddefnyddio fel arf er mwyn ennill achos llys.
Cytunir fod anhwylderau personoliaeth ar y cyfan yn digwydd ar “sbectrwm” sy’n wahanol o un person i’r llall.
Nododd y therapydd priodas a theulu trwyddedig, Saba Harouni Lurie, fod yna berthynas gadarn rhwng APFf a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae’n anodd meddwl am enghraifft arall lle byddai cyflwr o’r fath yn cael ei ddefnyddio fel y cafodd yn yr achos hwn.
Yn debyg i lawer o gyflyrau iechyd meddwl, mae’r ffaith bod APFf yn effeithio perthnasoedd rhyngbersonol yn ei wneud yn anoddach. Caiff hyn ei waethygu gan ddiffyg ymwybyddiaeth, neu’n waeth, cam-wybodaeth.
Mae’n rhaid bod ambell un sydd wedi cael diagnosis o APFf bellach yn poeni y bydd eu diagnosis yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn mewn rhyw ffordd, neu’n camliwio dealltwriaeth pobl ohonyn nhw fel unigolyn.
Mae Kathy Nickerson yn seicolegydd clinigol trwyddedig ac yn arbenigwr ar berthnasoedd a gydnabyddir ledled yr Unol Daleithiau. Bu iddi amlygu’r ffaith bod yna lawer o stigma o amgylch APFf. Roedd hefyd yn sicr o’r canlynol:
“Os caiff ei brofi bod Amber Heard wedi cam-drin Johnny Depp, nid oherwydd bod ganddi anhwylder personoliaeth ffiniol fydd hynny, ond oherwydd bod ganddi dueddiadau ymosodol.”
Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn dioddef o APFf ac wedi’ch effeithio, yn ddealladwy, gan y sefyllfa hon, mae yna ambell i ddolen i’w gweld isod i erthyglau sy’n trafod y ffeithiau a’r chwedlau am APFf ac erthyglau am y defnydd a wnaed o APFf yn yr achos llys hwn.
Borderline Personality Disorder Myths and Facts | NAMI: National Alliance on Mental Illness
Myths About Borderline Personality Disorder | The Recovery Village
BORDERLINE PERSONALITY DISORDER AWARENESS MONTH -May 2022 – National Today

Gadael Sylw