Pwrpas y gronfa DS: Nid grant cefnogaeth mewn argyfwng yw hwn. Cynhelir y panel bob wythnos, ond gall y broses ariannol ar gyfer trefnu taliadau gymryd o leiaf pythefnos yn dilyn hynny. Gwnewch gais mewn digon o amser lle gallwch chi os ydych chi angen eitemau erbyn dyddiad cau penodol, e.e. pasys bws, pasbortau, blaendaliadau ac ati. Mae’r gronfa i gefnogi pobl ifanc 16-25 oed sy’n derbyn gofal, neu wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol i fanteisio ar gyfleoedd i’w cynorthwyo i fyw’n annibynnol ac i lwyddo mewn meysydd fel: Addysg, e.e. offer cwrs, llyfrau ac ati. Cyflogaeth, e.e. cefnogaeth i baratoi neu i edrych am waith fel gwiriadau GDG, trwyddedau gwaith, offer priodol, trwydded yrru/gwersi ac ati. Lles corfforol a meddwl, e.e. cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau, hamdden a bwyta’n iach. Tai, e.e. nwyddau tŷ addas, sicrhau llety neu symud tŷ. |