• Skip to main content
  • Skip to header right navigation
  • Skip to site footer

Camau Bach Dyfodol Disglair

Cefnogi pobl sy'n gadael gofal yng Nghonwy

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Ar y gweill
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English

Twf Swyddi Cymru+

10/03/2022 gan Debbie Doig

Wyt ti’n chwilio am gyfle i ennill arian, i fod yn annibynnol a chamu ar yr ysgol yrfa?

Efallai dy fod di’n chwilio am y swydd iawn, yn meddwl am dy gamau nesaf ym myd addysg neu efallai fod angen rhywfaint o gymorth arnat i gyrraedd yno. Dyna le gall Twf Swyddi Cymru+ dy helpu di. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder a chael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd modd i ti gael gafael ar hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi cyflogedig gyda chyflogwyr yn dy ardal.

Beth yw Twf Swyddi Cymru+?

Rhaglen hyfforddi a datblygu yw Twf Swyddi Cymru+ sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat i ga el swydd neu hyfforddiant pellach. Os wyt ti’n byw yng Nghymru, rhwng 16 a 18 oed a ddim mewn addysg llawn amser, cyflogaeth na hyfforddiant gallet elwa o Twf Swyddi Cymru+. Mae’n rhaglen hyblyg iawn, wedi’i chynllunio o dy gwmpas di. Felly, mae’n ddewis doeth os wyt ti eisiau ychydig o help neu os wyt ti angen fwy o gymorth gydag anghenion penodol.

Sut mae cael gafael ar wasanaeth Twf Swyddi Cymru

Y cyfan sydd angen i ti ei wneud yw cysylltu â Cymru’n Gweithio. Bydd un o’u ynghorwyr cyfeillgar yn siarad â ti am y cymorth sydd ei hangen arnat a pha gymorth sydd ar gael. Os yw Twf Swyddi Cymru+ yn addas i ti, byddi di’n cael dy gyfeirio at y rhaglen. Bydd darparwr cymeradwy Twf Swyddi Cymru+ yn datblygu ac yn cyflwyno cynllun cymorth wedi’i ddylunio ar gyfer dy anghenion penodol di.

Os wyt ti’ dal mewn addysg ac yn ystyried gadael eleni, mae modd i ti hefyd sgwrsio â dy Gynghorydd Gyrfa am raglen Twf Swyddi Cymru+.

Mae modd i ti gael rhagor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+ drwy fynd i:

https://cymrungweithio.llyw.cymru/

Categori: Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, Blog

Peidiwch â cholli…

SIOP UN ALWAD!!

Gwella eich Dyfodol!

Dosbarthiadau coginio’n araf

Cymorth a chyngor a’r cynnydd mewn costau byw.

National Care Leavers Week

WYTHNOS GENEDLAETHOL Y RHAI SY’N GADAEL GOFAL! 24-28 HYDREF 2022

Wythnos Genedlaethol y Rhai Sy’n Gadael Gofal 2022

Reader Interactions

Gadael Sylw Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cysylltu

Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi. Os hoffech rannu adborth neu syniadau am y safle hwn, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Gwe-lywio

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Ar y gweill
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English

Chwilio’r safle hwn


Hawlfraint © 2023 · Camau Bach Dyfodol Disglair · Cedwir Pob Hawl ·

Dychwelyd i ben y dudalen