• Skip to main content
  • Skip to header right navigation
  • Skip to site footer

Camau Bach Dyfodol Disglair

Cefnogi pobl sy'n gadael gofal yng Nghonwy

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Ar y gweill
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English
aerial view photography of road between green grass

Tîm Ymgynghori Personol: Llwybrau cefnogaeth

24/10/2021 gan Debbie Doig

Drwy ein gwaith, bydd ein Hymgynghorwyr Personol yn aml yn dod ar draws y materion canlynol, neu bydd pobl yn gofyn iddyn nhw amdanyn nhw;

  • • Sut galla’ i gadw fy hun yn ddiogel rhag niwed a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol?
  • • Beth ddylwn i ei wneud os bydda’ i’n beichiogi neu os ydw i eisiau terfynu’r beichiogrwydd?
  • • Beth yw asesiad cyn geni a beth mae hyn yn ei olygu i mi?
  • • Beth os bydd pobl o fy nghwmpas yn feirniadol bod person sy’n gadael gofal yn mynd i fod yn rhiant?
  • • Dydw i ddim yn gwybod sut i ofalu am fabi
  • • Rwyf eisiau bod yn feichiog fel bod gen i rywun i’w garu!
  • • Mae fy mabi/plentyn yn cael ei gymryd oddi arna’ i
  • • Dydw i ddim eisiau gofyn am gymorth rhag ofn iddo adlewyrchu’n wael arna’ i fel Mam neu Dad

Drwy ystyried yr holl bwyntiau uchod ac i gryfhau ein gwasanaethau cynnal rydym wedi datblygu’r 4 llwybr canlynol:

  • Iechyd rhywiol a pherthnasoedd iach – mae hyn yn cynnwys cyngor am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, cyngor ar wirio bronnau a cheilliau a beth yw perthynas iach
  • Eisiau bod yn feichiog a materion cysylltiedig – mae hyn yn cynnwys cyngor ariannol, gwybodaeth am lety a chyngor am fudd-daliadau
  • Beichiogrwydd a rhianta cynnar – mae hyn yn cynnwys cyngor am beth i’w wneud os wyt ti’n meddwl dy fod yn feichiog, y dewisiadau sydd ar gael i ti os wyt ti’n feichiog a chynllunio ar gyfer rhianta cynnar
  • Colli babi – mae hyn yn cynnwys cyngor a chyfarwyddyd o ran lle i gael cefnogaeth os bydd dy fabi’n marw neu os oes angen i dy fabi fynd i ofal yr awdurdod lleol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysyllta â dy Ymgynghorydd Personol neu’r tîm Ymgynghori Personol ar ymgynghorwyrpersonol@conwy.gov.uk  

Categori: Blog, Iechyd, Teulu a pherthnasoedd cymdeithasolTag: Beichiogrwydd, Iechyd Rhywiol, Rhianta

Peidiwch â cholli…

Rhaglen WeDiscover Gogledd Cymru

Llefydd gwych i ddod o hyd i gyngor ariannol ar-lein!

Tea and Toast

Symud Ymlaen

FFAIR SWYDDI GOFAL CYMDEITHASOL

SIOP UN ALWAD!!

Reader Interactions

Gadael Sylw Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *