Helo, a diolch am ddod i weld y wefan!
Mae hon yn wefan newydd sbon ac yn dal i fod wrthi’n cael ei datblygu – gobeithio mai dyna pam eich bod chi yma. Rydym ni wir angen eich adborth a’ch syniadau chi i helpu gwneud yn siŵr bod y wefan yn datblygu fel yr hoffech chi iddi.
Y gobaith yw y bydd y wefan yn fuddiol i bobl sy’n gadael gofal, felly mae’n amlwg bod rhaid cynnwys llawer o wybodaeth y mae pobl sy’n gadael gofal ei hangen.
Gall hynny gynnwys llawer o wahanol agweddau, felly un o’r prif heriau yw gwneud pethau’n hawdd eu canfod. Mae angen rhywfaint o strwythur i’r wybodaeth. Rydym ni wedi dechrau arni drwy roi gwybodaeth mewn categorïau dan yr un penawdau â’r Cynllun Llwybr, sy’n golygu y gallwch chi ddod o hyd i erthyglau am Iechyd, Cyllid, Llety ac ati.
Dyma rywbeth sylfaenol yr hoffem ni gael eich adborth arno – a yw hon yn ffordd dda o strwythuro’r wybodaeth? Oes yna ffordd well? Rhannwch eich barn gyda ni.
Rydym ni eisoes wedi cael rhywfaint o adborth gan bobl ifanc ac wedi dechrau cynnwys y syniadau hyn ar y wefan. Fe hoffem ni wybod eich barn chi am y rhain a beth arall y mae ei angen ar y wefan.
Y cyntaf o’r rhain yw adran “Cyfarfod y Tîm” er mwyn i bobl sy’n gadael gofal gael dysgu ychydig mwy am yr ymgynghorwyr personol a’u rheolwyr.
Nesaf, mae adran “Dolenni Defnyddiol”, sy’n cynnwys dolenni i nifer o ffynonellau cymorth eraill.
Rydym ni wedi gwahanu’r rhain yn wahanol gategorïau, a bydd clicio ar unrhyw un o’r dewisiadau ar y rhestr yn diweddaru’r dudalen i ddangos y dolenni yn y categori hwnnw yn unig. Bydd clicio ar unrhyw un o’r dolenni yn mynd â chi’n syth i’w safle.
Mae yna dudalen gysylltiadau syml ar y wefan, lle gallwch chi anfon neges i’r tîm
Mae’r ddolen Blog yn y prif bennawd yn mynd â chi at restr o’r holl bostiadau – heb eu categoreiddio.
Mae’n ddyddiau cynnar a gobeithio y gallwch chi roi’ch barn i ni er mwyn i ni allu datblygu’r wefan mewn ffordd a fydd yn ei gwneud yn fwy buddiol i bobl sy’n gadael gofal, nawr ac yn y blynyddoedd i ddod.
Gadewch sylw, naill ai ar y fideo neu yn yr adran sylwadau isod.
Os hoffech chi hefyd fod yn rhan o’r tîm sy’n gweithio ar y wefan, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
Yn wir, rydym ni eisoes wedi ysgrifennu postiad blog am hyn – Mae eich gwefan eich angen chi – sy’n disgrifio nifer o ffyrdd y gall pobl helpu. Darllenwch y postiad i ddysgu mwy. Gadewch sylw yn nodi eich syniadau a rhowch wybod i ni os hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith. Fe fyddem ni wir yn hoffi clywed gennych chi.
Gadewch sylw isod 🙂
Gadael Sylw