Fel rhan o’r cyfarfod yn y bore gyda’r Ymgynghorwyr Personol, roeddem yn ffodus iawn i gwrdd â Sean Banning, Cydlynydd Hyfforddiant o’r Tîm Cymunedau am Waith yng Nghonwy. Daeth Sean at y tîm i siarad am Rhaglen Kickstart y Llywodraeth. Mae cyfweliad isod rhwng y tîm â Sean yn trafod beth yw’r cynllun a sut y gallwch gymryd rhan.
Allwch chi sôn am y Rhaglen Kickstart gyda ni?
Gallaf siŵr. Mae’n rhaglen sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth, wedi’i lunio ar gyfer pobl 16-24 oed sydd ar Credyd Cynhwysol ac mewn perygl o fod yn ddi-waith am y tymor hir. Mae’n lleoliad gwaith chwe mis gyda chyflog. Does dim sicrwydd y bydd swydd barhaol ar ôl hyn, ond yn sicr bydd y cyfleoedd yn gwella – os na fyddwch yn cael swydd lawn amser gyda’r cwmni neu sefydliad hwn, yna mae siawns dda iawn y byddwch yn dod o hyd i swyddi eraill ar ôl cael y profiad.
Felly gallwn edrych arno fel cyfweliad swydd sy’n para 6 mis?
Wel rydych yn sicr yn mynd drwy’r cyflwyniad yn gyflawn, cewch eich cynnwys fel gweithiwr llawn amser gyda’r un hawliau. Mae’n swydd o leiaf 25 awr yr wythnos ac yn ogystal mae cyfle i gyflawni hyfforddiant pellach. Mae grant o £1500 tuag at hyfforddi pobl.
A yw hynny ar gyfer pob lleoliad gwaith?
Ydi, ar gyfer pob lleoliad gwaith – felly mae cyfle i gael cymwysterau ychwanegol o fewn y maes hwnnw.
Bydd y £1500 yn cael ei ddefnyddio’n llwyr ar gyfer hyfforddiant neu a ellir ei ddefnyddio ar gyfer pethau eraill megis gofal plant?
Rwy’n credu mai ar gyfer hyfforddiant ydyw, fodd bynnag mae ffyrdd y gallwch edrych arnynt i gael cymorth ariannol gyda rhai o’r rhwystrau eraill.
O ran y 25 awr, beth yw’r tâl a sut mae’n effeithio ar Gredyd Cynhwysol?
Mae’n isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw, ond yn ddibynnol pa un yw’r un mwyaf perthnasol. O ran yr effaith – mae wedi cael ei ddylunio i beidio â chael effaith niweidiol ar yr unigolyn sy’n cael budd-daliadau.
Mae’r cynllun yn dod i ben ar ddiwedd eleni, fodd bynnag, os bydd rhywun wedi dechrau eu lleoliad gwaith cyn 31 Rhagfyr yna bydd y chwe mis yn parhau o’r dyddiad hwnnw. Bydd y cynllun gweithredol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr.
A yw’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru neu’r UE?
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.
Felly mae posib y bydd y cynllun yn parhau?
Dwi ddim yn credu y bydd y cynllun yn parhau er efallai bydd rhywbeth gwahanol yn lle Kickstart.
Pa gymorth ydych chi’n ei gynnig?
Byddem yn gweithio gyda’r unigolyn ac yn eu cefnogi, er enghraifft os oes arnynt angen cymorth gydag ysgrifennu eu CV. Rydym wedi dylunio cwrs cyn-Kickstart. Mae hwn ar gyfer rhywun sydd heb fod o fewn y byd neu weithgaredd o ymgeisio am swyddi, neu fynychu cyfweliadau. Mae’r cwrs wedi’i lunio i gefnogi gydag ysgrifennu CV a’i wneud yn berthnasol i’r swyddi. Byddwn yn helpu pobl i ddeall rolau swyddi a sut y gall eu CV gyd-fynd â hyn; byddwn yn gwneud cyfweliadau ffug. Mae llawer o’r pethau hyn ar gyfer gwella hyder, sydd yng ngwraidd pethau ac felly gellir rhoi cefnogaeth barhaus ar ôl hynny. Os bydd unrhyw un eisiau sicrhau lleoliad gwaith, yna byddwn yn parhau i’w cefnogi os ydynt eisiau, yn arbennig yn y camau cynnar. Weithiau bydd gwahanol safbwyntiau neu gamddealltwriaeth bach, a rydym yno i weithredu fel cefnogaeth annibynnol iddynt.
Beth sy’n ei wneud yn wahanol i’r cynlluniau eraill yr ydym wedi’i gael ar gyfer diweithdra?
Gallaf roi enghraifft o gynllun tebyg pan roeddwn yn arfer gweithio i Sefydliad AD. Roedd hwn yn gynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd gennym dau unigolyn ifanc wedi dod i’r broses hwn, a bu iddynt gymryd rhan yn yr union yr un cyflwyniad a byddai staff parhaol wedi’i gyflawni. Ac os rwy’n onest, dwi’n credu roedd fy rheolwr yn teimlo bod hwn yn ffordd rhad o gael llafur. Fodd bynnag, roeddynt yn swyddi dilys. Pan fyddwch yn dod i adnabod cryfderau a sgiliau’r unigolyn yna gallwch ddechrau teilwra’r rôl honno i wahanol bethau. Cawsant brofiad gwych, cawsant eu talu’n dda ac ar y diwedd bu i ni gynnig dwy swydd lawn amser iddynt. Mewn gwirionedd, a byddwch yn gwybod hyn eich hunain, mae’r wybodaeth, sgiliau a phrofiad y byddwch yn meithrin yn y 6 mis yn wych. Ac ar gyfer Sefydliadau, os ydych yn penderfynu recriwtio o’r farchnad waith ehangach, mae’n fwy o risg na chyflogi rhywun yr ydych yn ei adnabod sy’n gallu dod i’r tîm, sydd gan gwerthoedd gwaith foesegol da, yn cyrraedd ar amser; rydych yn gwybod beth yw safon eu gwaith a rydych yn gwybod bod ganddynt y potensial i ddatblygu eu gyrfa. Gallaf ond sôn am y profiad blaenorol hwnnw – roedd yn gyfle gwirionedol, gwerthfawr i rywun i symud ymlaen a chael swydd llawn amser.
Dwi’n credu bod hynny yn gyffrous iawn.
Mae’n ‘catch 22’ i bobl ifanc. Maent yn ymgeisio am swydd sydd angen profiad a ni allent gael swyddi gan nad oed ganddynt brofiad. Hyd yn oed ar ddiwedd y 6 mis, nid oes swydd iddynt am beth bynnag reswm, mae’r 6 mis hwn wedi bod yn werthfawr iddynt allu cael cyfweliad, efallai na fyddent wedi gallu yn flaenorol.
Sut byddech chi’n ceisio gwerthu rhaglen Kickstart i berson ifanc? Dyma eich cyfle i wneud sylw!
Dwi’n meddwl gan edrych ar y prif bwyntiau rydym wedi’i drafod, os ydych yn gweld eich bod yn ymgeisio am swyddi sy’n gofyn am brofiad, ac nad oes gennych yna mae hwn yn berffaith i chi oherwydd mae’n swydd wirioneddol i chi. Mae llawer o gyflogwyr angen gweld tystiolaeth o sut allwch fod o fewn tîm, mathau o bethau yr ydych wedi’u cyflawni, yr holl bethau yr hoffech eu cyflawni yn y 6 mis a rwy’n credu y peth mwyaf mae pobl yn ei gael ar ôl y rhaglen hwn yw hunan-gred a hyder. P’run ai y bydd y lleoliad gwaith Kickstart yn arwain at swydd neu beidio, bydd yn rhoi cred iddynt y byddent yn cael swydd arall oherwydd eu bod wedi gallu cyflawni pethau yr oeddynt yn credu oedd tu hwnt i’w gallu yn flaenorol. Os oes unrhyw un eisiau dechreuad yn eu gyrfa – yn fy marn i, hwn yw’r lle gorau i ddechrau. Mae tua 80+ o swyddi gwag i ddewis ohonynt.
Yn sicr. Dwi’n credu mai hwn yw’r cynllun cyntaf i mi ei weld sydd wirioneddol yn cydnabod ei bod hi’n anodd stopio budd-daliadau. Pan rydych yn ei dderbyn a dyma yw’r ffordd yr ydych yn ariannu eich bywyd – i newid i daliadau misol, i gyd-fynd a’ch budd-daliadau ac i gydnabod weithiau bod pobl dan anfantais wrth symud o dderbyn budd-daliadau i gyflogaeth. Dyma’r cynllun cyntaf i mi ei weld sydd yn cydnabod hyn ac mae’n braf iawn.
Mae gennym gyfanswm o tua 24 neu 27 o leoliadau gyda Chyngor Conwy, mae esgored pan fo angen ar fudd-daliadau. Felly dwi’n credu weithiau rydym yn edrych ar y tâl ac mae hyn yn bwysig iawn, yn arbennig gyda’r cyngor, ond mae llawer o fuddiannau ychwanegol megis aelodaeth gostyngedig mewn canolfannau hamdden, amser hyblyg, mae’n wych. Dwi’n credu ei fod yn fan dechrau i bobl sydd efallai yn teimlo’n yr un lle, a gall hyn fod yn gam ymlaen i gyflogaeth hirdymor.
Roeddwn wedi cael fy mhlesio gyda’r swyddi roedd gan Gonwy i’w cynnig. Maent yn swyddi go iawn, nid rhai ad hoc a byddant yn brofiad gwirioneddol.
Mae hyn yn bwynt da. Dwi’n credu i rai pobl eu bod dal yn teimlo ei fod fel profiad gwaith – y swyddi diraddiol yr ydych wedi bwriadu eu gwneud ond ddim yn cael amser, neu heb ysgogiad i wneud, fel llungopïo, ffeilio neu wneud paneidiau – mathau hynny o bethau. Ond, mae’r swyddi rwyf wedi ei weld ar gael yn y Cyngor, a rwyf wedi bod mewn gweminarau lle mae pobl wedi siarad am eu lleoliad gwaith kickstart y maent yn bwriadu penodi iddynt, sydd yn swyddi go iawn. Yr hyn sy’n ei wneud i weithio, a’r rheswm ei fod yn gweithio’n dda yn y cwmni blaenorol, oedd amser dynodedig gan y mentor i fynd drwy gyflwyniad yn hytrach na’u gweld fel anhwylustod. Roedd cynllun o’r hyn yr oeddynt am ei wneud yn wythnos 1, wythnos 2 ayyb ac eto yn gwneud i bobl deimlo’n rhan o’r cwmni. Mae’n union yr un fath â dod â gweithiwr arall i’r cwmni.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gwneud gweminarau ynghylch swyddi gwag a bydd rhywun yn dod ac yn siarad am y swyddi y maent yn eu cynnig. Roedd un swydd mewn gwesty lle’r oedd yn amlwg roeddynt eisiau i mi fuddsoddi fy amser i’r unigolyn ifanc a’u helpu i dyfu. Hefyd roeddynt wedi cynnwys rhai gwobrau ac wedi cynnwys bonysau penodol, er enghraifft wrth gyrraedd ar amser yn ystod y mis cyntaf yn golygu codiad cyflog a roedd wedi ei strwythuro’n dda iawn.
Sut gall unigolyn ifanc gyfeirio at y prosiect?
Felly, byddwn yn hyrwyddo drwy ein lleoliadau ein hunain at sianeli cyfyngau cymdeithasol ayyb. Nid yw’r lleoliadau gwaith ehangach yn cael eu hysbysebu ar Kickstart, ond o dan wefan ‘Dod o hyd i swydd’ y Llywodraeth; bydd y swyddi yn cael eu hysbysebu yno. Y ffordd arall yw siarad gyda’ch hyfforddwr gwaith yn y ganolfan byd gwaith. Gallent ddweud ‘Mae gennyf ddiddordeb mewn Kickstart a dyma’r mathau o swyddi rwyf eisiau’, gall yr hyfforddwr gwaith gefnogi hyn ac yna gall yr unigolyn ifanc ddechrau’r broses ymgeisio. Mae’n rhaid i’r cais ddod drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Fy nghwestiwn olaf – beth yw’ swydd fwyaf cyffrous rydych wedi’i weld yn y Rhaglen Kickstart?
I fod yn onest, y swydd fwyaf cyffrous rydw i wedi’i weld gyda’r Cyngor – efallai dyma fyddwn ni’n ei ddewis ond roedd lleoliad gwaith Kickstart fel Gweithredwr Cwch dan hyfforddiant a fydd yn gweithio gyda’r Harbwrfeistr yn y marina.
Rydym ni wedi gweld y lleoliad gwaith hwn ac mae’n swnio’n wych ac yn wahanol iawn.
Dwi’n credu i rywun sydd yn hoffi bod y tu allan, yn hoffi’r môr, yn swydd wirioneddol lle gallent gael profiad gwerthfawr. Mae’r hyn sy’n digwydd y tu hwnt i’r 6 mis yn ansicr, ond hwn oedd yr un wnaeth dynnu fy sylw.
Mae’r Cynllun Kickstart yn cynnig swydd gyflogedig am 6 mis gyda chyflogwr lleol, wedi’i hariannu’n llawn gan y Llywodraeth, er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad o weithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys diwydiannau technolegol a digidol, creadigol, peirianneg a gweithgynhyrchu, marchnata, chwaraeon, harddwch, masnach, coedwigaeth a llawer mwy. Yn ogystal â’r swydd, fe fyddwch chi hefyd yn cael cymorth ychwanegol gyda’ch cyflogadwyedd i helpu rhoi hwb i’ch cyfle i gael swydd yn y dyfodol. Cliciwch ar y botwm i fynd i dudalen Kickstart ar wefan Canolfan Byd Gwaith:
Mae’r Cynllun Kickstart yn cynnig swydd gyflogedig am 6 mis gyda chyflogwr lleol, wedi’i hariannu’n llawn gan y Llywodraeth, er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad o weithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys diwydiannau technolegol a digidol, creadigol, peirianneg a gweithgynhyrchu, marchnata, chwaraeon, harddwch, masnach, coedwigaeth a llawer mwy. Yn ogystal â’r swydd, fe fyddwch chi hefyd yn cael cymorth ychwanegol gyda’ch cyflogadwyedd i helpu rhoi hwb i’ch cyfle i gael swydd yn y dyfodol.
Cliciwch ar y botwm i fynd i dudalen Kickstart ar wefan Canolfan Byd Gwaith:
Gadael Sylw