• Skip to main content
  • Skip to header right navigation
  • Skip to site footer

Camau Bach Dyfodol Disglair

Cefnogi pobl sy'n gadael gofal yng Nghonwy

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English

Pum Awgrym Llesol

19/11/2021 gan Debbie Doig

Mae rhoi’r pum cam syml yma ar waith yn gallu cefnogi a gwella ein lles yn ddyddiol. Maen nhw wedi bod yn destun ymchwil a datblygu gan y New Economic Foundation, sef:

  1. Cysylltu

Mae teimlo’n agos at eraill, a chael eich gwerthfawrogi gan eraill, yn angen sylfaenol ac yn cyfrannu at ein lles. Rhowch gynnig ar wneud rhywbeth gwahanol a gwneud cysylltiad:

  • Siaradwch efo rhywun yn lle anfon neges destun neu e-bost
  • Siaradwch efo rhywun newydd
  • Holwch rywun am eu penwythnos, a gwrandewch yn astud arnyn nhw
  • Neilltuwch bum munud i holi sut mae rhywun go iawn

2. Bod yn egnïol

Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn gysylltiedig â chyfraddau iselder a gorbryder is ar draws pob grŵp oedran

Mae ymarfer corff yn hanfodol i hyrwyddo lles ac arafu dirywiad gwybyddol sy’n gysylltiedig â henaint.

Ond does dim rhaid i’r ymarfer corff fod yn ddwys er mwyn gwneud i chi deimlo’n dda – mae gweithgareddau arafach fel cerdded yn gallu bod yn fuddiol iawn o ran cymdeithasu ac ymarfer corff.

Beth am wneud ychydig o ymarfer corff heddiw? Dyma ychydig o syniadau:

  • Defnyddiwch y grisiau yn lle’r lifft
  • Ewch am dro amser cinio – ewch efo ffrind neu gydweithiwr fel y gallwch chi ‘gysylltu’ hefyd
  • Dewch oddi ar y bws un stop yn fuan a cherddwch ran olaf eich taith
  • Trefnwch neu ewch i weithgaredd chwaraeon – ond cofiwch eich cerdyn Ffit!
  • Ewch i chwarae pêl yn eich parc lleol
  • Gwnewch ychydig o ‘ymarfer corff hawdd’, fel estyniadau, pan fyddwch chi’n codi.

3. Cymryd sylw  

Gall atgoffa’ch hun i ‘gymryd sylw’ gryfhau ac ehangu ymwybyddiaeth.

Dengys astudiaethau bod ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas yn gwella’ch lles a bod ymhyfrydu yn y foment yn gallu ailddatgan blaenoriaethu’ch bywyd.

Mae ymwybyddiaeth uwch hefyd yn gwella’ch dealltwriaeth ac yn eich caniatáu chi i wneud dewisiadau cadarnhaol yn seiliedig ar eich gwerthoedd a’r hyn sydd yn eich ysgogi.

Cymrwch amser i fwynhau’r foment a’r byd o’ch cwmpas. Dyma ychydig o syniadau:

  • Prynwch blanhigyn ar gyfer eich gweithle neu’ch cartref
  • Neilltuwch ddiwrnod i ‘dacluso’
  • Cymrwch sylw o sut mae’ch teulu, eich ffrindiau neu’ch cydweithwyr yn teimlo neu’n ymddwyn
  • Pan fyddwch chi’n mynd i rywle, ewch ffordd wahanol i’r arfer
  • Ewch am dro ym myd natur a chymerwch sylw o’r planhigion, y coed a’r bywyd gwyllt – rydych chi’n cadw’n egnïol ac efallai y gwnewch chi ddysgu rhywbeth newydd

4. Dysgwch

Mae dysgu gydol oes yn gwella hunan-barch ac yn annog rhyngweithio cymdeithasol a bywyd mwy egnïol.

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod y cyfle i weithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol yn helpu pobl i oresgyn iselder.

Mae gan yr arfer o bennu nodau, yn arbennig nodau sy’n gysylltiedig â dysgu oedolion, gysylltiad cryf â lefelau lles uwch.

Beth am fynd ati i ddysgu rhywbeth newydd heddiw? Dyma ychydig o syniadau eraill:

  • Dysgwch rywbeth am eich ffrindiau, unigolion yn eich dosbarth neu’ch cydweithwyr
  • Cofrestrwch ar gyfer dosbarth neu rhowch gynnig ar gamp newydd i gadw’n heini ar yr un pryd
  • Darllenwch y newyddion neu lyfr
  • Sefydlwch glwb llyfrau
  • Gwnewch groeseiriau neu Sudoku
  • Ymchwiliwch i rywbeth rydych chi wastad wedi rhyfeddu ato
  • Dysgwch air newydd pob dydd

5.Rhoi

Mae cymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol neu gymunedol wedi denu llawer o sylw mewn gwaith ymchwil i les.

Mae unigolion sy’n dangos mwy o ddiddordeb mewn helpu eraill yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn hapus.

Mae ymchwil i’r camau ar gyfer hyrwyddo hapusrwydd yn dangos bod gwneud rhywbeth caredig unwaith yr wythnos am chwe wythnos yn gallu arwain at gynnydd mewn lles.

Categori: Blog, Lles emosiynol

Peidiwch â cholli…

Cymorth a chyngor a’r cynnydd mewn costau byw.

National Care Leavers Week

WYTHNOS GENEDLAETHOL Y RHAI SY’N GADAEL GOFAL! 24-28 HYDREF 2022

Wythnos Genedlaethol y Rhai Sy’n Gadael Gofal 2022

Dewch i ddarganfod WeDiscover!

group of women standing on green grass field during daytime

Haf Llawn Hwyl!

selective focus photography of woman wearing black cold-shoulder shirt using megaphone during daytime

Mae’n iawn i gwyno!

Reader Interactions

Gadael Sylw Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cysylltu

Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi. Os hoffech rannu adborth neu syniadau am y safle hwn, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Gwe-lywio

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English

Chwilio’r safle hwn


Hawlfraint © 2023 · Camau Bach Dyfodol Disglair · Cedwir Pob Hawl ·

Dychwelyd i ben y dudalen