• Skip to main content
  • Skip to header right navigation
  • Skip to site footer

Camau Bach Dyfodol Disglair

Cefnogi pobl sy'n gadael gofal yng Nghonwy

  • Hafan
  • Cwrdd â’r Tîm
  • Ynghylch
  • Blog
    • Dangos POB post
    • Iechyd
    • Arian a materion ariannol
    • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • Lles emosiynol
    • Hunaniaeth
    • Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol
    • Sgiliau ymarferol a sgiliau eraill
    • Tai
  • Ar y gweill
  • Dolenni Defnyddiol
  • Cysylltu
  • Arolwg
  • English
tea filled white ceramic mug on white ceramic saucer

‘Mae rhyw fel paned o de’ – Cydsyniad

21/10/2021 gan Paula Shoosmith

Er nad yw cydsyniad rhywiol mewn gwirionedd fel paned o de mae’r fideo hwn a grëwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn ceisio esbonio sut i ddeall cydsyniad rhywiol.

Mae’r fideo’n ceisio hybu dealltwriaeth pobl o gydsyniad rhywiol drwy edrych ar y peth fel gwneud paned o de.

Os ydych chi’n cynnig paned o de i rywun a’u bod yn derbyn – yna mae’n iawn rhoi paned iddynt.

Efallai weithiau eich bod yn cynnig paned i rywun a’u bod rhwng dau feddwl, ac felly os penderfynwch chi wneud un mae’n bosib na fyddant yn ei hyfed. Efallai na fyddant yn yfed diferyn. Os oes rhywun yn dewis peidio ag yfed y baned, allwch chi ddim rhoi pwysau arnynt i wneud.

Os oes rhywun yn gwrthod paned, peidiwch â gwneud un, ac mae’n bwysig peidio â digio at bobl os ydynt yn gwrthod.

Weithiau mae pobl yn derbyn y cynnig o baned ac yna’n newid eu meddyliau. Eto, mae hynny’n iawn a does gennych chi ddim hawl i ddigio at bobl am newid eu meddyliau.

Yn olaf, os oes rhywun yn anymwybodol (wedi meddwi, er enghraifft) ni ddylech chi byth â gwneud paned iddynt na’u gorfodi i yfed un

Wrth feddwl am gydsyniad mae’n bwysig meddwl hefyd a yw’r unigolyn dan sylw’n deall beth maent yn cydsynio iddo. Er enghraifft, efallai y byddai rhywun wedi meddwi’n rhacs yn derbyn paned a hwythau ddim mewn cyflwr i benderfynu’n iawn. Mae oedran yn bwysig iawn hefyd – yr oedran cydsynio yw un ar bymtheg.

Dyma ddolen at lyfryn bach defnyddiol ynglŷn â chydsyniad: http://pauseplaystop.org.uk/wp-content/uploads/2014/10/consentbooklet5LR1.pdf Hefyd, fe ddewch chi o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gydsyniad ar Pause, Play, Stop Gall hyn ddangos ichi pryd y dylech chi wasgu’r botwm pause, pryd mae’n iawn ichi wasgu play a phryd mae’n amser ichi wasgu stop.

Categori: Blog, Teulu a pherthnasoedd cymdeithasol

Peidiwch â cholli…

Symud Ymlaen

FFAIR SWYDDI GOFAL CYMDEITHASOL

SIOP UN ALWAD!!

Gwella eich Dyfodol!

Dosbarthiadau coginio’n araf

Cymorth a chyngor a’r cynnydd mewn costau byw.

Reader Interactions

Gadael Sylw Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *