Dewch i ganfod cysylltiadau lleol i’ch helpu chi gyda phroblemau tai neu lety.
Sharon Winter yw Hyrwyddwr Tai y tîm Ymgynghorwyr Personol(YP). Mae wedi gweithio gyda phobl ifanc ers 20 mlynedd ac yn dweud, ‘yn amlach na pheidio, llety yw’r prif beth y mae pobl angen cymorth gydag ef, a gwn o brofiad pa mor gymhleth y gall canfod ffordd drwy hyn fod.’ Gyda hyn mewn golwg, mae Sharon wedi creu rhestr o’r prif sefydliadau cymorth sydd ar gael i helpu gydag amrediad o broblemau tai, sydd i’w gweld isod ac yn adran dolenni defnyddiol y wefan. Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Mae croeso i chi gysylltu â Sharon i drafod pethau ymhellach os byddwch chi angen unrhyw gymorth. Cysylltwch â personaladvisors@conwy.gov.uk
Cysylltiadau lleol:
Tîm Atal Digartrefedd – Datrysiadau Tai Conwy – 0300 124 0050.
Mae Tîm Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc Conwy ar gael i roi cyngor i bobl ifanc am eu dewisiadau tai. Trafodwch hyn ymhellach gyda’ch YP neu ffoniwch 01492 577013 neu anfon neges e-bost i oaktreeproject@conwy.gov.uk
Tîm Atal Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc Nacro – 01492 539940. Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Digartrefedd Conwy a thîm Canfod Cartref Cartrefi Conwy i gynnig cymorth di-oed gyda thenantiaethau i unigolion sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref, a’u helpu i gael gafael ar lety addas.
Shelter Cymru – 01745 361444. Mae’r elusen hon yn gweithio i amddiffyn yr hawl i gartref diogel. Maen nhw’n helpu drwy gynnig cyngor annibynnol am ddim.
Gadael Sylw