Gall trigolion Conwy o unrhyw oedran sy’n teimlo wedi’u llethu neu’n cael trafferth ymdopi gael gafael ar gymorth iechyd meddwl bob awr o’r dydd, drwy wasanaeth cymorth neges destun yr elusen Mental Health Innovations.

Trwy anfon y gair CONWY i 85258 byddwch yn cael eich cysylltu â gwirfoddolwr hyfforddedig a fydd yn sgwrsio gyda chi dros neges destun, ac yn gweithio gyda chi i gymryd y camau nesaf tuag at deimlo’n well. Fe allan nhw helpu gydag amrywiaeth o broblemau o straen, gorbryder ac iselder, i broblemau mewn perthynas a bwlio.
Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim a chyfrinachol sydd ar gael ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos.
Gadael Sylw