Cwrs coginio’n araf pedair wythnos AM DDIM
1.00 – 2.30 ar ddydd Iau, 6, 13, 20, 27 Ebrill.
|
Everyone taking part receives a FREE slow cooker and fresh ingredients every week.
Dyma ddau rysait popty araf gwych – iach, sy’n siŵr o’ch llenwi ac yn eich cadw’n gynnes ar ddiwrnodau oer. Mae’r ddau wedi eu profi a’u blasu ac yn cael eu mwynhau gan yr unigolyn wnaeth eu hanfon i mewn!
Lobsgows
Yr hyn fyddwch ei angen i 2 o bobl:
Tua 350g o gig eidion wedi’i dorri
Tatws wedi ei malu (gallwch adael y croen os byddant wedi eu golchi’n lân, mae’n uchel mewn haearn), fel arfer 2 i 2 o bobl
Moron wedi eu malu (yr un fath â thatws gyda’r croen os dymunwch), fel arfer 2 i 2 o bobl.
Pys wedi eu rhewi neu mewn tun,
India corn wedi rhewi neu mewn tun
Swejen wedi’i malu (wedi rhewi neu ei malu’n barod yn haws gan y gall fod yn anodd iawn i dorri un ffres)
2 botyn stoc cig eidion a 2 botyn stoc llysiau (rwy’n defnyddio rhai Knorr)
Beth i’w wneud:
Rhowch y llysiau i gyd yn y popty araf ac ychwanegu dŵr wedi’i ferwi yna ei adael ar dymheredd isel am 5 awr – gorau po hiraf a dweud y gwir. Tua awr cyn amser cinio, rhowch y popty araf ar dymheredd uchel. Dewisol: ychwanegwch ronynnau grefi ar y diwedd i dewychu’r sudd. Ychwanegwch bupur a halen fel y dymunwch.
Mae’r saig hwn yn ddi-glwten heb y gronynnau grefi, hefyd mae’r saig hwn yn addas i bobl ag alergedd llaeth. Hefyd yn addas ar gyfer alergeddau nionyn heb y gronynnau grefi.
Cig Eidion Rhost
Defnyddiwch ddarn o gig i’w rostio – unrhyw un yn iawn. Ychwanegwch 2 botyn stoc cig eidion a 2 botyn stoc llysiau. Ychwanegwch ddŵr berwedig nes bydd wedi’i orchuddio, a phys a phupur a halen os dymunwch
Ychwanegwch y gronynnau grefi ar y diwedd i wneud eich grefi eich hun.
Coginiwch am 5 awr neu gymaint ag y medrwch ar dymheredd isel yna awr cyn cinio trowch y tymheredd i fyny i uchel.
Gadael Sylw