Voices 2022: Y gystadleuaeth ysgrifennu genedlaethol i blant 5 – 25 oed mewn gofal ac sy’n gadael gofal!
Mae Coram Voice yn sefydliad arweiniol hawliau plant; sy’n rhoi llais i bobl ifanc mewn penderfyniadau sydd o bwys iddyn nhw a gweithio i wella bywydau plant mewn gofal, pobl ifanc sy’n gadael gofal ac eraill sy’n dibynnu ar gymorth y wladwriaeth.
Mae’r canlynol ar eu gwefan Voices 2022 – the creative writing competition for children in care and young care leavers now open – Coram Voice
Lansiwyd ein seithfed rhifyn blynyddol o Voices, y gystadleuaeth ysgrifennu creadigol i blant mewn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal ar draws y wlad. Bydd y gystadleuaeth a noddwyd gan ymgynghoriaeth rheoli y DU, Cadence Innova, yn agored ar gyfer cystadleuwyr o 6 Rhagfyr i 28 Chwefror 2022.
Lansiwyd y gystadleuaeth gyntaf yn 2016 fel platfform ar gyfer pobl ifanc sydd wedi profi gofal i fynegi eu doniau creadigol ac i ddatblygu dealltwriaeth o’u profiadau. Ers hynny, mae’r gystadleuaeth wedi datblygu o flwyddyn i flwyddyn, gyda rhai cystadleuwyr yn y rownd derfynol yn mynd ymlaen i ysgrifennu darnau ar gyfer teitlau cyfryngau cenedlaethol.
Ar ôl dwy flynedd o gynnal y seremoni gwobrau Voices ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid, mae Coram Voice yn bwriadu cynnal seremoni gwobrau wyneb yn wyneb yng nghanol Llundain yn y Gwanwyn 2022, gan ddod â’r cystadleuwyr yn y rownd derfynol, beirniaid a chefnogwyr i ddathlu cyflawniadau’r holl blant a phobl ifanc wnaeth gymryd rhan.
Thema cystadleuaeth eleni yw ‘Dyma Fi’ a gall ceisiadau fod mewn unrhyw ffurf ysgrifenedig gan gynnwys cerddi, straeon byrion, rapiau neu erthyglau papur newydd, gyda therfyn o 500 gair. Mae yna bedwar categori oedran: ysgol gynradd (5-10), ysgol uwchradd isaf (11-14 oed) ysgol uwchradd uchaf (15-17 oed) a phobl sy’n gadael gofal (18-25 oed).
Bydd panel o awduron a cherddorion sy’n arbenigwyr, rhai ohonynt wedi cael profiad o ofal yn beirniadu. Bydd y beirniaid yn cael eu cyhoeddi’n fuan, ynghyd â grŵp o feirniaid ifanc oedd yn y rownd derfynol ym mlynyddoedd blaenorol y gystadleuaeth.
Dywedodd Brigid Robinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Coram Voice: “Rydym yn falch o agor rhifyn 2022 o gystadleuaeth ysgrifennu creadigol Voices. Pan wnaethom lansio’r gystadleuaeth hon yn 2016, nid oedd gennym unrhyw syniad y byddai’n troi yn gyfle creadigol mor bwysig a gwerthfawr i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal ar draws y wlad. Bob tro y byddaf yn clywed bod un o’n cystadleuwyr blaenorol yn y rownd derfynol wedi mynd ymlaen i gyflawni eu hamcanion, boed yn parhau i ysgrifennu, mynd i’r brifysgol neu i gael swydd maent yn ei charu, mae’n fy atgoffa pam fod y gystadleuaeth hon yn bodoli.
“Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at weld sut fydd y bobl ifanc yn dehongli thema eleni ac yn ymateb yn greadigol yn eu gwaith llenyddol. Mae hwn yn gyfle i blant a phobl ifanc mewn gofal ac sy’n gadael gofal i ysgrifennu am beth sydd bwysicaf iddyn nhw a dangos eu doniau. Nid oes yna ffordd well i ddysgu am eu profiadau a dathlu eu cyflawniadau.”
Dywedodd Jessica, enillydd categori Ysgol Gynradd yn y Voices 2021: “Roedd yn hwyl cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Roedd yn wych bod yn enillydd, roeddwn wrth fy modd ac yn neidio i fyny ac i lawr yn gweiddi “Dw i wedi ennill!” Mae fy nheulu gofal maeth, fy ysgol, fy ngweithiwr cymdeithasol a phawb yn falch iawn ohonof. Rwy’n gyffrous iawn i gael gwahoddiad i ddychwelyd fel beirniad ifanc ar gyfer cystadleuaeth 2022! Dw i’n methu aros i ddarllen gwaith y cystadleuwyr.”
Dywedodd Tricia Phillips, Ymgynghorydd Rheoli Cadence Innova: “Rydym yn falch i barhau i gefnogi Coram Voice. Mae eu hymrwymiad a’u hymgysylltiad wedi’i adlewyrchu gan eu hegni i gydweithio a galluogi’r mwyaf bregus yn ein cymunedau i gael dyfodol gwell. Mae’r gwerthoedd hyn yn ganolog i’n sefydliad, felly ni fydd yn syndod pam bod ein partneriaeth yn gweithio mor dda.”
Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein yn www.coramvoice.org.uk rhwng 6 Rhagfyr a 28 Chwefror 2022.
Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan!!
Gadael Sylw