Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ‘siop un alwad’ dan arweiniad y gymuned ar gyfer cyflogadwyedd yng Nghonwy. Mae’n cynnig rhaglenni Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru i unrhyw un dros 16 oed sy’n ddi-waith neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ac mae’n eu helpu i wella eu sgiliau, darganfod – a chadw – swyddi, lleoliadau profiad gwaith a gwaith gwirfoddol. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys:
Mentoriaid a chefnogwyr cyflogaeth ymroddedig
Mentora un-i-un personol, wedi’i deilwra i’r unigolyn
Cyrsiau hyfforddi wedi’u cyflwyno’n broffesiynol i feithrin sgiliau
Cymorth ariannol i oresgyn rhwystrau i fyd hyfforddiant a gwaith, er enghraifft benthyg Chromebooks, dongles wifi, costau teithio, dogfennau adnabod, gofal plant.
Dulliau ymgysylltu â’r Gymuned a Chyflogwyr megis digwyddiadau recriwtio, cyfleoedd gwaith, lleoliadau gwaith a chyrsiau Llwybrau
Atgyfeirio at asiantaethau neu sefydliadau partner eraill lle bo hynny’n briodol.
Cynllun Cynnydd/Progress ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd mewn perygl o Beidio â bod mewn Gwaith, Addysg na Hyfforddiant (NEET) er mwyn rhoi’r arweiniad, y gofal a’r sylfaen orau bosibl iddyn nhw adeiladu dyfodol gwell.
Ffôn 01492 575578 neu e-bost: CEH@Conwy.gov.uk
Gadael Sylw