“Beth yw ffrind? Fe ddyweda’ i wrthych chi…rhywun y byddwch chi’n mentro bod yn chi eich hun yn eu cwmni nhw.” Frank Crane
Ffrind yw pan fydd gen ti gysylltiad agos gydag un neu ragor o bobl. Nid oes rhaid i ffrindiau fod yr un rhyw â thi, neu hyd yn oed yr un rhywedd. Rydym i gyd yn gwneud ffrindiau mewn bywyd mewn gwahanol ffyrdd. Mae ffrind yn rhywun y galli di ddewis eu cael yn dy fywyd.
Rydym yn aml yn cael pobl sy’n mynd a dod a rhai sy’n aros yn rhan gyson o’n bywydau.
Mae’n bwysig iawn cofio ei bod yn anodd i rai pobl wneud ffrindiau a gall camau gwahanol yn ein bywydau ddylanwadu’n gryf ar y math o gyfeillgarwch sydd gennym. Hyd yn oed pan mae gen ti ffrindiau mae’n normal i ti deimlo’n unig ar adegau.
Beth sy’n gwneud ffrind da?
- Rhywun y galli di ymddiried ynddyn nhw
- Rhywun y galli di siarad â nhw pan fyddi di angen/eisiau gwneud hynny
- Rhywun nad oes rhaid i ti eu gweld drwy’r amser ond sydd yno i ti pan fyddi di eu heisiau/angen
- Rhywun sy’n gwrando ac yn dy gefnogi
- Rhywun sy’n onest gyda thi
Ffyrdd i wneud ffrindiau?
Mae nifer o ffyrdd y galli di wneud ffrindiau, yn enwedig os wyt ti’n teimlo’n unig. Dyma rai ffyrdd y byddem ni’n eu hawgrymu i wneud ffrindiau:
- Ymuno â grwpiau
- Gwirfoddoli
- Drwy dy waith
- Coleg/addysg neu gyrsiau hyfforddi
- Rhoi cynnig ar ddiddordebau newydd
Edrycha ar y canllaw hwn, sy’n ddefnyddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth.
Galli di weld llawer o ddolenni defnyddiol eraill ar y wefan hefyd – cer i weld a oes unrhyw beth o ddiddordeb i ti yno. Cymera’r cam cyntaf i wneud cysylltiadau newydd a all arwain at wneud ffrindiau gwych.
“Does dim byd yn well na ffrind, ar wahân i ffrind sydd â siocled.” Linda Grayson
Gadael Sylw